Lleoliad:
Lleoliad Allanol
Dyddiad: Dydd Gwener, 6 Gorffennaf 2018
Amser:
11.02 -
13.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5214
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AC (Cadeirydd) Russell George AC Mike Hedges AC Dai Lloyd AC Nick Ramsay AC David Rees AC David J Rowlands AC Simon Thomas AC |
Tystion: |
Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru Jason Thomas, Llywodraeth Cymru Mari Stevens, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kathryn Thomas (Ail Glerc) Ben Stokes |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw, Jayne Bryant, John Griffiths, Lynne Neagle a Bethan Sayed.
2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â Strategaeth Llywodraeth Cymru (Partneriaeth ar gyfer Twf), cefnogaeth i fusnesau bach ac effaith Brexit, gan gynnwys tegwch o ran symudiad pobl.
2.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am:
· pryd y bydd canlyniadau'r astudiaeth ddichonoldeb i ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn cael eu cyhoeddi a beth fydd y camau nesaf;
· unrhyw ddiweddariad i'r cynllun gweithredu sy'n sail i'r Bartneriaeth ar gyfer Twf, sef strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer twristiaeth, am weddill y strategaeth; ac
· ymchwil i broffil ymwelwyr safleoedd Cadw.
Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.
Nodwyd y papur.
Nodwyd y papur.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion.